Oherwydd yr Argyfwng Costau Byw, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gan ‘arbenigwyr’ y trydydd sector ar bynciau sy’n effeithio fwyaf ar sefydliadau trydydd sector. Yn ogystal, mae'n gyfle i archwilio sut y gallwn gydweithio ym Mhowys.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyllid, gwirfoddoli, ynni ac anghenion cymunedol.
Cwblhewch y ffurflen hon i ddweud wrthym sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar eich sefydliad ac os gallwch fynychu'r digwyddiad ar-lein.